Fforwm Gwledig Cymru

Ffurfiwyd Fforwm Gwledig Cymru yn 1990 i gryfhau llais y bobl sydd yn weithredol yn y gymuned ac i wella'r llif syniadau rhyngddynt a'r amryfal asianteithiau ac awdurdodau sydd yn gyfrifol am bob agwedd ar fywyd gwledig Cymru.

Amcan

I ategu a chryfhau ymdrechion unigolion, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mudiadau cenedlaethol, awdurdodau lleol, sefydliadau academaidd ac asiantaethau'r Llywodraeth o ran gwella ansawdd bywyd, ac o ran sicrhau bod gan ein cymunedau ddyfodol ffyniannus.

Mae creu cymunedau hyderus, hunangynhaliol yn rhagamod ar gyfer gweithgarwch blaengar a mentrus, ac mae ffyniant economaidd yn hanfodol ar gyfer cymunedau byw.
XHTML | CSS | Accessibility